Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
25 Medi 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5845
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gwahoddwyd y Llywydd enwebiadau ar gyfer cadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad. Enwebwyd Dawn Bowden gan Huw Irranca-Davies. Eiliwyd gan Vikki Howells. Gan nad oedd dim enwebiadau eraill, etholwyd Dawn Bowden
Gofynnwyd cwestiynau 1- 5 a 7 - 9. Tynnwyd cwestiwn 6 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.19
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Weinidog yr Economi a
Thrafnidiaeth
Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru): Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu'r rhai
sydd wedi cael eu heffeithio gan Thomas Cook yn cau?
Dechreuodd yr eitem am 15.24
Gwnaeth Angela Burns ddatganiad ar Ddiwrnod Fferyllwyr y Byd (25 Medi)
Dechreuodd yr eitem am 15.26
NDM7139 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Hawliau Pleidleisio i Garcharorion', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Mehefin 2019.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.39
NDM7140 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi'r sylwadau a wnaed gan gyfranogwyr yn nigwyddiad rhanddeiliaid y Pwyllgor Cyllid yn Aberystwyth ynghylch blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2020-21 sydd ar y gweill.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.38
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7141 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cefnogi aelodaeth Cymru o Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a'i pharhad amhenodol.
2. Yn nodi bod Cymru, fel y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.
3. Yn cefnogi datganoli pellach mewn meysydd penodol a fyddai o fudd i Gymru a lle mae rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn elwa o ddatganoli o'r fath, fel toll teithwyr rheilffyrdd ac awyr.
4. Yn nodi'r rhan a fu gan yr Undeb Ewropeaidd yn y gorffennol o dan erthyglau 154 i 156 o Gytuniad Rhufain mewn perthynas â rhwydweithiau traws-Ewropeaidd, gan gynnwys yr M4 a'r A55.
5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi gwelliannau i'r A55 a chyflenwi ffordd liniaru'r M4 drwy gronfa ffyniant a rennir y DU er budd Cymru a'r DU gyfan.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
4 |
0 |
42 |
46 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 1 “ond yn credu bod angen i’r ffordd y cynhelir y cysylltiadau rhynglywodraethol rhwng y cenhedloedd datganoledig a Llywodraeth y DU gael ei diwygio mewn modd radical”.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
8 |
13 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Rebecca Evans (Gwyr)
Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 2 “ond yn credu, yn sgil profiad y tair blynedd diwethaf, na ellir sicrhau dyfodol mwy disglair i Gymru heb i’r DU aros yn yr UE”.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
15 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Rebecca Evans (Gwyr)
Ym mhwynt 3, yn lle “fel toll”, rhoi “fel plismona a chyfiawnder a tholl”.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
6 |
15 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth y DU:
a) i gryfhau ei hymrwymiad i fuddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru, er enghraifft drwy drydaneiddio’r prif linellau rheilffordd yn y De a’r Gogledd a buddsoddi mewn ynni llanw yng Nghymru, sy’n gyfrifoldeb iddi;
b) i ddarparu cyllid llawn yn lle’r cyllid Ewropeaidd y bydd Cymru’n ei golli os bydd y DU yn ymadael â’r UE, a hynny heb unrhyw ymyrraeth gan Lywodraeth y DU o ran y ffordd orau o’i ddefnyddio.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
31 |
0 |
15 |
46 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gan fod gwelliant 4 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 5 ei ddad-ddethol
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7141 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cefnogi aelodaeth Cymru o Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a'i pharhad amhenodol ond yn credu bod angen i’r ffordd y cynhelir y cysylltiadau rhynglywodraethol rhwng y cenhedloedd datganoledig a Llywodraeth y DU gael ei diwygio mewn modd radical.
2. Yn nodi bod Cymru, fel y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ond yn credu, yn sgil profiad y tair blynedd diwethaf, na ellir sicrhau dyfodol mwy disglair i Gymru heb i’r DU aros yn yr UE.
3. Yn cefnogi datganoli pellach mewn meysydd penodol a fyddai o fudd i Gymru a lle mae rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn elwa o ddatganoli o'r fath, fel toll fel plismona a chyfiawnder a tholl teithwyr rheilffyrdd ac awyr.
4. Yn nodi'r rhan a fu gan yr Undeb Ewropeaidd yn y gorffennol o dan erthyglau 154 i 156 o Gytuniad Rhufain mewn perthynas â rhwydweithiau traws-Ewropeaidd, gan gynnwys yr M4 a'r A55.
5. Yn galw ar Lywodraeth y DU:
a) i gryfhau ei hymrwymiad i fuddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru, er enghraifft drwy drydaneiddio’r prif linellau rheilffordd yn y De a’r Gogledd a buddsoddi mewn ynni llanw yng Nghymru, sy’n gyfrifoldeb iddi;
b) i ddarparu cyllid llawn yn lle’r cyllid Ewropeaidd y bydd Cymru’n ei golli os bydd y DU yn ymadael â’r UE, a hynny heb unrhyw ymyrraeth gan Lywodraeth y DU o ran y ffordd orau o’i ddefnyddio.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
22 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 18.24
Dechreuodd yr eitem am 18.27
NDM7142 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Agwedd ysgol gyfan Cymru: cynorthwyo pob plentyn i ffynnu, dysgu a llwyddo mewn ysgolion.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.52
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 1 Hydref 2019